Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Medi 2019
Amser: 08.30 - 09.15
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu agor cwestiwn pedwar i'r Prif Weinidog - ar Ymgyrch Yellowhammer ac Islwyn (Rhiannon Passmore) - i Aelodau ar draws y Siambr, o ystyried y lefel debygol o ddiddordeb.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd, oherwydd pwysigrwydd y ddadl, yn hyblyg o ran yr amser ar gyfer y ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), er mwyn caniatáu cymaint o siaradwyr â phosibl.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 7.10pm.
Dydd Mercher
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 7.10pm.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd y Prif Weinidog ar gael ar gyfer Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 1 Hydref, felly bydd hi'n ateb yn ei le.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 9 Hydref 2019 -
Yn amodol ar gynnig i'r effaith hwn gael ei gytuno gan y Cynulliad ddydd Mercher, caiff Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan ei gynnull i drafod Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), ar ôl y Ddadl Fer.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais a chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau. Gofynasant hefyd am gyngor cyfreithiol pellach i lywio eu hystyriaeth yr wythnos nesaf.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais a chytunwyd i drefnu dadl.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais a chytuno i ddychwelyd ato yn y cyfarfod nesaf, fel y gallent ystyried barn y Pwyllgor Cyllid.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad i gyfeirio'r Gorchymyn arfaethedig at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda dyddiad adrodd o 30 Medi 2019 fan bellaf.
Dywedodd Darren Millar wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'r grŵp Ceidwadol yn gwrthwynebu sefydlu'r pwyllgor ac na fyddai'n cymryd rhan ynddo pe bai'n cael ei sefydlu.
Ceisiodd y Llywydd annog y grŵp Ceidwadol i barhau i gymryd rhan mewn trafodaethau ar y mater. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod materion yn ymwneud ag aelodaeth a chadeirio y tu allan i'r pwyllgor a dychwelyd atynt yr wythnos nesaf i wneud penderfyniad.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr ac ailadroddodd yr angen i Aelodau drin pwyllgorau fel blaenoriaeth a bod yn brydlon. Cytunwyd y byddant yn ystyried cyhoeddi ffigurau presenoldeb unigol os na fydd y sefyllfa'n gwella. Cytunwyd hefyd bod gan Gadeiryddion rôl i'w chwarae o ran siarad ag Aelodau nad ydynt yn bresennol neu sy'n cyrraedd yn hwyr / yn gadael yn gynnar heb eglurhad.